Cartref

Ni yw Grŵp Arfordirol Gorllewin Cymru sy'n dod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau gweithredu morol eraill at ei gilydd i gyflawni rheolaeth strategol o’r draethlin rhwng Penrhyn Santes Anne yn Sir Benfro a'r Gogarth yng Nghonwy. Mae'r arfordir yn lle dynamig, sy'n newid yn barhaus ac sy'n gartref i lawer o bobl a busnesau, yn ogystal â bod yn bwysig ar gyfer ei amrywiaeth o nodweddion amgylcheddol a daearegol. Fel Grŵp, rydym yn archwilio'r materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n codi ar yr arfordir ac yn ceisio dod o hyd i'r polisïau gorau i ddelio â'r materion hynny.