Prif Ddogfen

Mae’r ddogfen hon yn darparu’r cynllun at y dyfodol a’r polisïau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu’r cynllun hwn. Bwriadwyd hwn ar gyfer darllenwyr cyffredinol ac ef yw prif offeryn cyfleu bwriad rheolaeth yn y dyfodol. Tra bo’r cyfiawnhad dros benderfyniadau’n cael ei gyflwyno, nid yw’n rhoi’r holl wybodaeth wrth gefn yr argymhellion, sydd mewn dogfennau eraill. Caiff y cynllun ei gyflwyno mewn saith rhan:

CYFLWYNIAD A'R PROSES

Secsiwn 1

Sy’n rhoi manylion egwyddorion, nodau, strwythur a chefndir datblygiad y cynllun.

Secsiwn 2

Sy’n rhoi manylion sut mae’r CRhT yn ateb gofynion Asesiad Priodol (AA) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA).

Secsiwn 3

Sy’n cyflwyno sail i ddatblygiad y Cynllun, yn taro golwg gyffredinol dros ardal y Cynllun, yn disgrifio cysyniadau polisi cynaliadwy ac yn rhoi dealltwriaeth o’r cymhellion a chyfyngiadau ar fabwysiadu polisïau arbennig.

CYNLLUN A DATBLYGIAD POLISI

Secsiwn 4

Dywedwyd yn aml fod cymaint o werth ym mhroses feddwl am ddatblygu’r CRhT ag sydd yn y polisïau eu hunain. Bwriad yr adran hon, felly, yw tywys y darllenydd trwy’r broses hon.

Mae’r CRhT hwn yn cwmpasu dros 1000km o draethlin. Yn Adran 4 caiff sail resymegol ei thrafod ar sut i’w isrannu heb golli gwerth ystyried yr arfordir cyfan. Yr israniad dechreuol yw yn ôl Ardal Arfordirol, y diffiniwyd 7 ohonynt (Ardaloedd Arfordirol A i G). Caiff yr ardaloedd hyn eu hisrannu ymhellach yn Barthau Datblygu Polisi (PDZ). O fewn y parthau hyn caiff yr arfordir ei ddisgrifio ac mae esboniad o sut allai’r arfordir ymddwyn:

  1. os na fydd dim gwaith amddiffyn ychwanegol yn cael ei wneud (y senario NAI);
  2. os bydd rheoli presennol yn cael barhau i’r dyfodol (y senario WPM).

Diffiniwyd y rhain fel y ddau senario man cychwyn wrth wneud yr adolygiad. Mae ystyried y senarios hyn yn datblygu dealltwriaeth o’r pwysau all ddatblygu ar yr arfordir dan wahanol ddulliau rheoli. Mae’n caniatáu asesu a yw amcanion yn cael eu cyflawni neu beidio, dan bob senario.

O’r asesiad hwn, caiff dulliau trin neu senarios gwahanol eu harchwilio ac, o hyn, cafodd y Cynllun dewisol drafft ei ddatblygu. I gyflawni’r Cynllun hwn caiff polisïau unigol eu llunio ar gyfer rhannau o’r arfordir (Unedau Polisi; PU). Yn olaf caiff yr unedau hyn eu grwpio’n ardaloedd rheoli (Ardaloedd Rheoli; MA), gan dynnu ynghyd unedau polisi sydd â chyd-ddibyniaeth sylfaenol. Ar ôl ymgynghori ar y Cynllun drafft, mae’r polisïau a’r agwedd at reolaeth wedi cael eu datblygu ymhellach ac mae’r Cynllun terfynol yn cael ei drafod yn Adran 4

Ar gyfer pob MA, caiff datganiadau eu paratoi’n cyflwyno crynodeb o’r bwriad, y camau angenrheidiol dros wahanol gyfnodau, ac effeithiau’r polisïau dewisol. Gan ddechrau o saith Ardal Arfordirol wreiddiol gyda chyfanswm o 20 PDZ, diffiniwyd yr arfordir gan 309 PU sy’n cael eu tynnu at ei gilydd fel 62 MA.

TROSOLWG

Secsiwn 5

Yn dwyn ynghyd y cynllun cyffredinol, gan amlygu materion pwysig mewn perthynas â rheoli'r arfordir yn y dyfodol.

Secsiwn 6

Sy’n rhoi crynodeb o’r polisïau. Rhaid derbyn y bydd llawer o ddarllenwyr yn canolbwyntio ar gasgliadau lleol y CRhT. Fodd bynnag, mae’n bwysig derbyn bod y CRhT yn cael ei gynhyrchu ar gyfer yr arfordir cyfan, gan ystyried materion y tu hwnt i fannau penodol. Felly, dylid darllen y crynodeb hwn yng nghyd-destun y materion a goblygiadau polisi ehangach, fel sy’n cael eu

cyflwyno a’u datblygu yn Adran 4 gyda chefnogaeth gwybodaeth yn yr Atodiadau.

Secsiwn 7

Ar ôl ymgynghori ar y cynllun drafft, mae cynllun gweithredu wedi ei ddatblygu, yn darparu rhaglen ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol sy’n ofynnol i symud y Cynllun ymlaen rhwng hyn a’i adolygiad nesaf ymhen 5 i 10 mlynedd. Bydd crynodeb o’r cynllun gweithredu hwn ar gyfer pob MA yn cael ei gyflwyno yn Adran 4 o fewn y datganiadau MA. Mae hyn yn cael ei ddatblygu’n fanylach yn y cynllun gweithredu ei hun. Caiff y cynllun gweithredu ei ddatblygu fel cronfa ddata fydd yn cael ei defnyddio gan yr amrywiol awdurdodau wrth lywio a chadw golwg ar ddatblygiad y Cynllun.

Atodiad A

Atodiad B

Atodiad C

Atodiad D

Atodiad F

Atodiad G

Atodiad H