Mae traethlin Gorllewin Cymru wedi'i rhannu'n 309 o adrannau byr o'r enw ‘Unedau Polisi’. Ar gyfer pob adran, argymhellir un o'r pedwar opsiwn polisi canlynol:
Dim Ymyriad Gweithredol (NAI) |
Lle nad oes unrhyw fuddsoddi mewn |
Cadw’r Llinell (HTL) |
Trwy gynnal neu newid safon yr amddiffyniad. Dylai’r polisi hwn gwmpasu’r sefyllfaoedd hynny lle mae gwaith neu gamau gweithredu’n cael eu gwneud o flaen yr amddiffynfeydd presennol i wella neu gynnal safon yr amddiffyniad sy’n cael ei ddarparu gan y llinell amddiffyn bresennol. |
Adlinio Rheoledig (MR) |
Trwy adael i’r draethlin symud yn ôl neu ymlaen, gyda rheolaeth i gadw trefn neu gyfyngu ar y symudiad. |
Symud y Llinell Ymlaen (ATL) |
Trwy adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr y môr i’r amddiffynfeydd gwreiddiol. |
Darperir opsiwn polisi ar gyfer pob un o'r tri chyfnod (20, 50 a 100 mlynedd) ar gyfer pob rhan o'r arfordir. Gall opsiynau polisi newid ar gyfer gwahanol gyfnodau ar gyfer yr un darn o arfordir. Er enghraifft, yr opsiwn polisi ar gyfer uned bolisi benodol fyddai ‘Cadw’r Llinell’ ar gyfer y cyfnod cyntaf (0 - 20 mlynedd), gan newid i ‘Adlinio Rheoledig ' ar gyfer y cyfnod nesaf (20 - 50 mlynedd).
Dylid nodi nad yw'r polisïau yn y CRhT yn cynnwys manylion penodol ar gyfer cynlluniau o ran gwneuthuriad, dyluniad na safon yr amddiffyniad.