Asesiad ar raddfa fawr o’r peryglon cysylltiedig â datblygiad yr arfordir yw Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT) ac mae’n cyflwyno fframwaith polisi ar gyfer rhoi sylw mewn ffordd gynaliadwy i’r peryglon hyn i bobl a’r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol. Wrth wneud hynny, mae CRhT yn ddogfen lefel uchel sy’n ffurfio rhan bwysig o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar amddiffyn rhag llifogydd a gwarchod yr arfordir.
Mae’r cynllun yn rhoi asesiad bras o’r peryglon hyn ond hefyd mae’n rhoi cyngor eithaf penodol i awdurdodau gweithredu wrth iddynt reoli amddiffynfeydd. Trwy hyn, a thrwy nodi materion sy’n cwmpasu sbectrwm eang o fuddiannau arfordirol, mae’r CRhT yn cefnogi nodau’r Llywodraeth, ar sail strategaeth DEFRA “Gwneud Lle i Ddŵr” (DEFRA 2005):
- Lleihau bygythiad llifogydd ac erydiad arfordirol i bobl a’u heiddo; a
- Dod â’r budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf, sy’n cyd-fynd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth.
Dogfen bolisi anstatudol yw’r CRhT ar gyfer cynllunio rheoli amddiffyniad yr arfordir. Mae’n ystyried canllawiau cynllunio a gofynion deddfwriaethol eraill sy’n bodoli, a’r bwriad yw ysbrydoli cynllunio strategol ehangach. Nid yw’n pennu polisi ar unrhyw beth heblaw rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol . Fodd bynnag, o’r safbwynt hwn, ei nod yw rhoi cyd-destun i benderfyniadau rheoli mewn sectorau eraill o reoli’r arfordir, a’u canlyniadau.
Mae’r CRhT yn hyrwyddo polisïau rheoli ar gyfer morlin ymlaen i’r 22ain Ganrif sy’n cyflawni amcanion hirdymor heb ymrwymo i amddiffyn anghynaliadwy. Fodd bynnag, rhaid derbyn na fydd newidiadau ar raddfa eang i arferion rheoli presennol efallai’n briodol yn y byrdymor iawn oherwydd amcanion presennol a’r hyn sy’n dderbyniol heddiw. O ganlyniad, mae’r CRhT yn rhoi llinell amser ar gyfer newid amcanion, polisi a rheolaeth; h.y. ‘map’ i wneuthurwyr penderfyniadau ei ddilyn wrth symud o’r sefyllfa bresennol tuag at y dyfodol.